Croeso i safle Winning Welsh!

The site for intermediate Welsh learners who are ready to take the next steps to cross the bridge to fluency. Here you’ll find answers to your Welsh learning questions, practical help and – I very much hope – lots of inspiration. The content will be a mix of English and Welsh.

Sut mae croesi’r bont o siarad fel dysgwr i deimlo’n wirioneddol hyderus yn y Gymraeg? Sut mae symud o lefel sylfaen i ganolradd ac ymlaen o’r canolradd? Cewch chi atebion, gymorth ymarfol ac – mawr obeithio – ysgbrydolaeth yma ar safle newydd Winning Welsh.

Dr P yw fi. Rwyf yn ddysgwr fy hunan a hynny ers dros 30 o flynyddoedd. Er mai un o ras Gymraeg, fe’m magwyd yn uniaith Saesneg yn Swydd Efrog. Yn 18 oed, dechreuais i ddysgu’r iaith. Ers hynny mae’r iaith wedi cyfoethogi fy mywyd mewn ffyrdd di-rif. Cefais swydd darlithydd hanes Rwsia trwy gyfrwng y Gyrmaeg yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Nes ymlaen bum yn rheolwr dros dro ar siop llyfrau Cymraeg yn Abertawe. Hyfforddais i fod yn athro Cymraeg i oedolion. Diolch i’r iaith rwyf wedi cael cyfleuon i deithio ac i gyfrannu i’r cyfryngau, ail-gysylltu â fy gwreiddiau, dod i nabod llawer o bobl diddorol a gwneud ffrindiau da. Beth bynnag yw’ch rhesymau chi dros ddysgu, rwyf am i chi deimlo’r wefr o ddod yn rhugl. Wn i ddim pa ddrysiau’ y bydd yr iaith yn agor i chi ond rwyf yn siwr o hyn: fydd hi’n agor drysiau!


Test